Amdanom ni

Mae’r Coleg Chwaraeon ac Ymarfer Corff wedi bod yn datblygu cyrsiau chwaraeon, ymarfer corff a ffitrwydd ers sawl blwyddyn yng Nghymru. Mae’r Coleg Chwaraeon ac Ymarfer Corff wedi’i gynllunio ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 ac 19 oed sydd am ennill cymwysterau a chael profiadau i ddilyn gyrfa yn y diwydiant chwaraeon a hamdden llesol. Rydym yn cynnig cymwysterau lefel 1, 2 a 3 yn ogystal â chyrsiau a chymwysterau ychwanegol sy’n helpu i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd ein myfyrwyr, megis hyfforddiant cylchol a chyrsiau hyfforddwr campfa.

Mae hynny’n golygu – cymryd rhan, gwella eich ffitrwydd, meithrin sgiliau ac ennill cymwysterau, cael swydd a gwneud eich gorau glas. Byddwch yn gallu manteisio ar amrywiaeth enfawr o ddigwyddiadau a gweithgareddau, gan gynnwys cyflwyniadau, hyfforddiant a mentora gan chwaraewyr proffesiynol, Olympiaid ac arbenigwyr y diwydiant.

Mae prentisiaethau ar gael i unrhyw un yng Nghymru sydd dros 16 oed ac sy’n gweithio yn y diwydiant chwaraeon a hamdden llesol, neu’r rhai sydd am gamu i mewn i’r diwydiant chwaraeon a hamdden llesol drwy ymarfer corff a ffitrwydd neu hyfforddi chwaraeon. Mae hyfforddiant prentisiaeth yn ffordd dda o wella sgiliau eich gweithlu presennol a sicrhau hefyd bod eich cyflogeion yn parhau i fod llawn cymhelliant ac yn gyfarwydd â’r datblygiadau diweddaraf.