Dysgu Galwedigaethol

Ansawdd Addysg

Mae nod ein rhaglen addysg yn syml, creu dinasyddion gwell.

Dull MPCT yw’r dull y bydd eich hyfforddwyr yn ei ddefnyddio i gael y gorau ohonoch tra byddwch yn dysgu. Mae’r dull hwn yn weithredol, yn hwyl ac mae’r arddull filwrol yn eich helpu i baratoi ar gyfer gwasanaeth milwrol.

Mae’r rhaglen gyfan mewn cyd-destun milwrol. Mae hyn yn golygu y byddwch yn dysgu am eich nodau gyrfa, y byd gwaith, a sut y gallwch wneud cyfraniad cadarnhaol i’ch cymunedau.

Mae MPCT wedi ei helpu’n aruthrol, a bydd yn ei helpu gyda’i gyrfa yn y dyfodol hefyd. Rhoddont gymorth iddi drwy’r gohiriad, a’i helpu i wella ei ffitrwydd, fe wnaethant ei gweithio’n galed. Roedd y broses ohirio yn anodd iawn iddi, cafodd dipyn o ergyd mewn gwirionedd. Rwy’n credu eu bod yn gwneud gwaith gwych. Mae wedi gwneud i fy merch feddwl yn fwy blaengar.

Dysgu Galwedigaethol

Byddwch yn dilyn rhaglen ddysgu, sy’n amrwyio gan ddibynnu ar ble rydych chi’n byw ac yn dysgu. Ble bynnag y byddwch yn dysgu, byddwch yn cael hyfforddiant ffitrwydd dyddiol, hyfforddiant milwrol wythnosol a gwersi dinasyddiaeth. Byddwch hefyd yn cymryd rhan mewn sesiynau addysg gyrfaoedd misol, gyda chefnogaeth recriwtwyr a chyflogwyr milwrol a sifiliaid.

Mae’r themâu a drafodir mewn dysgu galwedigaethol yn cynnwys:

  • Ffitrwydd Corfforol i’r Fyddin
  • Deall y Fyddin
  • Gwaith Tîm ar gyfer y Gwasanaeth Milwrol
  • Crefft Maes ar gyfer Gwasanaeth Milwrol
  • Iechyd a Diogelwch yn y Fyddin
  • Sgiliau Llywio yn y Fyddin
  • Sgiliau Arwain yn y Fyddin
  • Sgiliau Cyfathrebu yn y Fyddin

Dysgu yn Lloegr

Os ydych yn byw yn Lloegr, byddwch yn ymuno â’r Rhaglen Astudio 16-19. Byddwch yn dysgu yn y ganolfan am 4 diwrnod yr wythnos, gyda dysgu cyfunol wedi’i gynllunio ar gyfer pob dydd Gwener. Yn ystod y rhaglen hon, byddwch yn gweithio tuag at enill Sgiliau Gweithredol mewn Saesneg a Mathemateg, a Dyfarniad, Tystysgrif a Diploma Lefel 2 ETCAL mewn Paratoadau ar gyfer Gwasanaeth Milwrol.

Dysgu yng Nghymru

Os ydych yn byw yng Nghymru, byddwch fel arfer yn ymuno â’r rhaglen Ymgysylltu â Hyfforddeiaethau. Byddwch yn dysgu yn y ganolfan am 3 diwrnod a hanner yr wythnos. Yn ystod y cyfnod hwn, byddwch yn gweithio ar eich hyder, ffitrwydd, mathemateg a Saesneg. Byddwch hefyd yn cymryd rhan yn rhai o wersi Paratoi ar gyfer y Gwasanaeth Milwrol.

Pan fyddwch yn barod, byddwch yn symud ymlaen i’r rhaglen Hyfforddeiaeth Lefel 1. Byddwch yn astudio yn y ganolfan am 4 diwrnod a hanner yr wythnos. Yn ystod y rhaglen hon byddwch yn parhau i ddatblygu eich mathemateg a’ch Saesneg, ac yn cwblhau Cymwysterau Sgiliau Hanfodol mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif. Byddwch hefyd yn gweithio tuag at Ddyfarniad a Thystysgrif BTEC Lefel 1 mewn Sgiliau Gwaith.

MANTEISION DYSGU GALWEDIGAETHOL

  • Mae’r cwricwlwm Paratoi ar gyfer Gwasanaeth Milwrol yn cynnig sgiliau, gwybodaeth ac ymagwedd a fydd yn eich cefnogi i lwyddo yn eich cais i ymuno â’r lluoedd arfog. Darperir y rhaglen hon gan gyn-aelodau profiadol o’r lluoedd arfog, gyda chefnogaeth recriwtwyr a chyflogwyr milwrol a sifiliaid.
  • Byddwch yn cymryd rhan mewn ymweliadau a dyddiau profiad sy’n rhoi cipolwg go iawn i chi ar eich dewisiadau gyrfa ac yn eich helpu i osod nodau gyrfa realistig.

Sgiliau Mathemateg a Saesneg

Bydd sesiynai Cyfrifiadau Milwrol a Chyfathrebu Milwrol (MC²) yn rhoi cyfle i chi ddatblygu eich Saesneg a’ch mathemateg mewn cyd-destun milwrol.

Mae’r sgiliau sydd wedi’u gwreiddio yn seiliedig ar enghreifftiau gwir o fywyd milwrol, ac mae’n ffordd fwy effeithiol o ddysgu, o gofio ac o gymhwyso theori ar Ddiwrnodau Hyfforddi Milwrol.

Os ydych wedi cyflawni gradd 4 neu uwch ar lefel TGAU mewn mathemateg a/neu Saesneg, ni fydd yn ofynnol i chi gwblhau unrhyw asesiadau Sgiliau Gweithredol.

Fodd bynnag, byddwch yn dal i gymryd rhan yn y sesiynau MC² a bydd gennych dargedau sgiliau misol i weithio tuag atynt sy’n seiliedig ar eich asesiad cychwynnol a’r ddiagnosteg o’ch sgiliau a gwblhaoch ar ddechrau eich taith yn MPCT. Bydd hyn yn datblygu eich sgiliau mathemateg a Saesneg ymhellach o fewn cyd-destun milwrol ac yn cadw sgiliau rhag pylu.

MANTEISION MATHEMATEG A SAESNEG

  • Gyda sgiliau mathemateg a Saesneg, gallwch gael mynediad i addysg bellach neu addysg uwch, gallwch ennill cyflogaeth ystyrlon a gwerth chweil, a gallwch wella eich sgiliau a’ch hyder bob dydd.
  • Bydd y sgiliau a enillwch yn MPCT yn eich helpu yn eich bywyd bob dydd. Maent yn eich cefnogi i ddeall ac i reoli eich arian, yn eich helpu i reoli eich amser a’ch prydlondeb, ac yn eich galluogi i gyfathrebu’n hyderus ag eraill.
  • Gall rhai rolau yn y lluoedd arfog fod yn fwy technegol a byddwch angen rhai cymwysterau. Hefyd, bydd angen i chi ennill cymwysterau penodol mewn mathemateg a Saesneg i gael dyrchafiad.

Hyfforddiant Corfforol

Bydd disgwyl i chi gymryd rhan mewn hyfforddiant corfforol bob dydd yn MPCT. Mae hyn yn cyfrif am 50% o’r cwrs yn MPCT, a bydd yn cefnogi dysgwyr i baratoi ar gyfer y lluoedd arfog.

Bydd asesiadau ffitrwydd rheolaidd yn nodi lefel eich ffitrwydd presennol, yn gosod nodau pellach i symud ymlaen, ac yn penderfynu pa liw bib y byddwch yn ei wisgo. Mae’r asesiad yn cynnwys 5 gweithgaredd ar wahân: 2.4 km a 2 km o redeg, press-ups, sit-ups, pull-ups a Phrawf Ffitrwydd Aml-Gam. Bydd eich profion ffitrwydd yn eich helpu i baratoi i gael eich dethol i’r fyddin.

Bydd lliw eich bib yn newid wrth i chi ddod yn fwy heini ac yn gryfach. Gan ddechrau mewn bib Glas, byddwch yn cynnal ymarferion sy’n briodol i’ch lefelau ffitrwydd unigol. Byddwch yn symud ymlaen i wisgo bib Coch ar ôl i chi wella. Pan fyddwch chi’n barod, a’ch bod yn pasio’r profion ffitrwydd, byddwch chi’n ennill bib Gwyrdd.

MANTEISION HYFFORDDIANT CORFFOROL

  • Mae bod yn heini ac yn iach yn rhan hanfodol o fywyd milwrol a chyflogaeth sifil. Mae hyfforddiant corfforol dyddiol yn eich helpu i ganolbwyntio a ffocysu yn ystod gwersi, ac i ddod yn fwy cadarn yn gorfforol ac yn feddyliol. Bydd y rhaglen weithredol yn MPCT yn eich helpu i ffurfio patrymau cysgu da gyda’r nos ac i fod yn fwy parod i ddysgu drannoeth.

Ymunodd Mr Poulter ag MPC ym mis Mai 2020. Mae’n cyfaddef na fu erioed yn academydd, ac nad oedd yr ysgol wedi cynnig yr hyn yr oedd yn ei ddisgwyl. Ganwyd Mr Poulter yn y DU ond fe’i magwyd yn Ffrainc. Ei ddyhead erioed oedd ymuno â’r Fyddin ac roedd yn awyddus i wella ei allu mewn Mathemateg a Saesneg.

Mae Mr Poulter wedi cwblhau’r broses ymgeisio ar gyfer y Fyddin. Mae’n dechrau hyfforddi yn Harrogate ym mis Mawrth 2021. Mae’n benderfynol o wneud yn dda ac mae’n ymuno â’r Royal Tank Regiment. Mae eisoes wedi nodi ei fod yn benderfynol o gwblhau’r holl lefelau Sgiliau Gweithredol yn MPCT neu yn y Fyddin.

Asesiad

Drwy gydol eich amser ar y cwrs, bydd eich hyfforddwr yn monitro eich cynnydd yn rheolaidd mewn gwersi galwedigaethol, mathemateg a Saesneg, gan roi adborth a thargedau strwythuredig i chi yn ystod ac ar ddiwedd pob uned. Wrth i chi ddatblygu eich sgiliau a’ch gwybodaeth, bydd eich hyfforddwr wedyn yn gofyn i chi gwblhau ffug asesiad i nodi eich parodrwydd ar gyfer yr asesiad gwirioneddol. Byddwch yn defnyddio’r system e-Portfolio OneFile i gasglu tystiolaeth ar gyfer eich holl gymwysterau galwedigaethol drwy gydol eich cwrs.

  • Pan fyddwch yn barod, byddwch yn sefyll eich asesiadau mathemateg a Saesneg ac yn cyflwyno eich tystiolaeth alwedigaethol.
  • Yn ystod yr asesiadau mathemateg a Saesneg yng Nghymru a Lloegr byddwch yn cwblhau cyfres o dasgau dan reolaeth ac asesiadau ar-lein ac ar bapur. Byddwch hefyd yn cymryd rhan mewn asesiadau siarad a gwrando ymarferol. Bydd y math o asesiad yn amrywio yn dibynnu ar ble rydych chi’n astudio, lefel y cymhwyster, a’r pwnc.
  • Ar ôl i chi basio eich asesiadau mathemateg a Saesneg byddwch yn derbyn tystysgrif cymhwyster a rhodd gan MPCT i’ch gwobrwyo am eich gwaith caled a’ch ymdrech. Os ydych eisoes wedi ennill TGAU gradd 4 neu uwch mewn mathemateg neu Saesneg, ni fydd yn rhaid i chi gwblhau asesiadau sgiliau.