Preparing life for what you’ll throw at it.


Take the next step to a career in the Armed Forces

Dy Drobwynt Di

Yn yr MPC, rydym yn credu y gall pawb gyflawni eu nodau drwy arweinyddiaeth ac addysgu rhagorol.

Mae MPC yn goleg hyfforddi unigryw sy’n helpu pobl ifanc 16-19 oed i ddatblygu eu sgiliau ffitrwydd, eu sgiliau galwedigaethol a’u sgiliau chyflogadwyedd er mwyn eu paratoi ar gyfer cyflogaeth, gan gynnwys gyrfaoedd gwerth chweil yn y Lluoedd Arfog Prydeinig.

DARLLENWCH FWY

GWELD A OES GENNYCH HAWL I GAEL CYMORTH ARIANNOL TRA YN MPCT

BYWYD YN MPC

Beth sy’n gwneud yr MPC yn unigryw?

Mae sawl peth sy’n gwneud yr MPC yn unigryw: ein staff addysgu, ein darpariaeth gwersi, a’r hyfforddiant corfforol yn y coleg.

Hyfforddwyr

Mae pob hyfforddwr yn y coleg wedi gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, ac mae pob un yn bresennol fel modelau rôl cryf a chyson i’w myfyrwyr.
Yn ystod eu gwasanaeth, cafodd ein hyfforddwyr hyfforddiant eithriadol mewn arweinyddiaeth a rheolaeth. Mae hyn yn golygu bod ein myfyrwyr yn dysgu gan y goreuon. Mae’r ymdeimlad o falchder y mae ein staff yn ei deimlo wrth ddatblygu, hyfforddi a chefnogi ein myfyrwyr hefyd wedi cael ei gydnabod gan restr The Times 100 Best Companies to Work 2017.

Ansawdd Addysg

Byddwch yn dilyn rhaglen ddysgu, sy’n amrwyio gan ddibynnu ar ble rydych chi’n byw ac yn dysgu. Ble bynnag y byddwch yn dysgu, byddwch yn cael hyfforddiant ffitrwydd dyddiol, hyfforddiant milwrol wythnosol a gwersi dinasyddiaeth. Byddwch hefyd yn cymryd rhan mewn sesiynau addysg gyrfaoedd misol, gyda chefnogaeth recriwtwyr a chyflogwyr milwrol a sifiliaid.

Hyfforddiant Corfforol

Bydd disgwyl i chi gymryd rhan mewn hyfforddiant corfforol bob dydd yn MPCT. Mae hyn yn cyfrif am 50% o’r cwrs yn MPCT, a bydd yn cefnogi paratoi a symud dysgwyr i’r lluoedd arfog. Mae bod yn heini ac yn iach yn rhan hanfodol o fywyd milwrol a chyflogaeth sifil. Mae hyfforddiant corfforol dyddiol yn eich helpu i ganolbwyntio a ffocysu yn ystod gwersi, a byddwch yn dod yn fwy cadarn yn gorfforol ac yn feddyliol.

Locations

Find an academy near you

The Military Preparation Academies can be found across England and Wales, all offering a fantastic and unique training environment for young people looking to start their military career.

Addysg

Cymwysterau

Mae ein cyrsiau wedi’u cynllunio i ddatblygu’r sgiliau y mae Dysgwyr eu hangen i ddechrau gyrfa werth chweil gyda Lluoedd Arfog Prydain neu i barhau at addysg bellach neu hyfforddiant.

READ MORE

STORÏAU

Y Newyddion Diweddaraf

MPCT yn dod yn rhan o’r Grŵp Learning Curve

Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein bod, o heddiw ymlaen, yn dod yn rhan o Learning Curve Group. Darparwr hyfforddiant cenedlaethol yn parhau â’u twf trawiadol trwy gaffael MPCT Mae’r darparwr hyfforddiant cenedlaethol Learning Curve Group (LCG) yn falch iawn o gyhoeddi eu bod wedi caffael MPCT yng Nghaerdydd, gan ategu ei ddarpariaeth academi bresennol. Bydd

Darllen Mwy

MPCT yn ymweld â RAF Cosford.

Ar 23 Tachwedd, gwahoddwyd MPC Birmingham ac MPC Walsall i ymweld ag RAF Cosford, wedi’i drefnu gan Flight Lieutenant Katie Sheppick. Dyma’r cyfle cyntaf i ymweld â lleoliad yr Awyrlu Brenhinol ers cryn dipyn o amser. Gwelodd y dysgwyr yr holl gyfleoedd gwych a oedd ar gael iddynt pe byddent yn dewis gyrfa gyda’r RAF.

Darllen Mwy

Digwyddiadau Sydd i Ddod

Find out more about MPC