Ansawdd addysg

Cwricwlwm

Mae ein cyrsiau wedi’u cynllunio i ddatblygu’r sgiliau y byddwch eu hangen i ddechrau gyrfa werth chweil gyda Lluoedd Arfog Prydain neu i barhau at addysg bellach neu hyfforddiant.

Mae ein cwricwlwm yn cwmpasu datblygu amrywiaeth eang o sgiliau, gan gynnwys siarad cyhoeddus. Mae’r sgiliau a’r hyder angenrheidiol yn cael eu hadeiladu drwy’r baratoi a gwneud cyflwyniadau. Bydd eich cyfoedion a’ch Hyfforddwr yn eich cefnogi bob cam o’r ffordd wrth i’ch hyder dyfu.

Mae’r cyrsiau ychydig yn wahanol yng Nghymru a Lloegr, ond gallwch wirio pa rai sy’n iawn i chi isod. Asesir pob myfyriwr ar lefel unigol cyn iddynt ymuno â’r coleg i sicrhau eich bod yn dechrau ar y cwrs cywir. Os ydych rhwng 16-19 oed gallwch ymuno ag un o’n colegau. I gael rhagor o wybodaeth am hyn, ffoniwch 0330 111 3939.

BTEC Lefel 2 mewn Sgiliau Gwaith

Bydd y cymhwyster BTEC Lefel 2 mewn Sgiliau Gwaith yn eich helpu i ddatblygu sgiliau ac agweddau sy’n cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr mewn unrhyw sector neu ddiwydiant. Gallwch symud ymlaen drwy wahanol lefelau o’r cymhwyster. Mae’r rhain yn cynnwys y Dyfarniad, Tystysgrif, Tystysgrif Estynedig a Diploma mewn Sgiliau Gwaith.

Nod y cwrs yw eich paratoi ar gyfer cyflogaeth. Dim ond y cam cyntaf yw cael swydd, rydym hefyd yn canolbwyntio ar eich galluogi i lwyddo ac i symud ymlaen yn eich rôl neu yrfa yn y dyfodol.

Yn ystod y cwrs byddwch yn datblygu eich hyder, eich ffitrwydd, eich iechyd a’ch gallu i weithio o fewn tîm. Byddwch yn ennill y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i symud ymlaen i gyflogaeth, astudiaeth bellach neu brentisiaeth.

Byddwch yn gwneud yr unedau Sgiliau Gwaith BTEC Lefel 2 canlynol:

Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith

Ymddygiad Personol ar gyfer Llwyddiant

Cefnogi Cyflogadwyedd ac Effeithiolrwydd Personol

Datblygu eich CV

Gwneud Cais am Swyddi

Paratoi ar gyfer y Broses Recriwtio

Dilyniant Gyrfa

Rheoli Eich Arian Eich Hun

Datblygu Gwydnwch ar gyfer Gwaith

Datrys Problemau sy’n gysylltiedig â Gwaith

Gweithio mewn Tîm

Datblygu Sgiliau Personol ar gyfer Arweinyddiaeth

Ymarfer Sgiliau Arwain gydag Eraill

Rhinweddau a Sgiliau Trosglwyddadwy ar gyfer Gwaith

Adolygu a Gwella eich Perfformiad eich Hun

Gwella Iechyd a Ffitrwydd ar gyfer Mynediad i’r Gwasanaethau Cyhoeddus mewn Lifrai

Archwilio Effaith Amrywiaeth yn ein Cymuned

Ffyrdd Iach o Fyw

Rheoli Risg mewn Perthynas â Diogelwch Personol, Iechyd a Lles

Sgiliau Cyflogadwyedd Lefel 2

Fel rhan o’r broses sefydlu, byddwch yn gweithio tuag at Ddyfarniad Rhagarweiniol mewn Sgiliau Cyflogadwyedd. Ar ôl ei gwblhau, bydd yr uned Byw’n Iach yn darparu’r wybodaeth sylfaenol i fabwysiadu a chynnal ffordd iachach o fyw, gan archwilio manteision byw bywyd iach, gan osod nodau a datblygu cynllun i gyflawni’r rhain.