CYN-FYFYRWYR MPC
Dilyn ôl eu Traed
Fel cyn-fyfyriwr MPCT rydych yn rhan o’n cymuned. Rydym yn awyddus i chi rannu eich atgofion o fod yn fyfyriwr MPCT a sut mae wedi eich helpu ar hyd y llwybr rydych chi wedi’i ddewis.
Os oes gennych unrhyw luniau, eitemau neu atgofion o’ch amser yma, byddem wrth ein bodd pe baech yn rhannu’r rhain gyda ni a’r gymuned.
E-BOSTIWCH EICH STORI I
Fel Cyn-fyfyrwyr byddwch yn cael eich gwahodd i ddigwyddiadau yng nghalendr MPCT ar adegau penodol o’r flwyddyn ac yn derbyn cyhoeddiadau gan MPCT gan gynnwys ein hadolygiad blynyddol.
Fel cyn-fyfyrwyr byddwch hefyd yn derbyn gostyngiad o 10% ar eitemau Black Mountain Embroidery.
MAI-LYN CLARKE
MPC CAERDYDD
Fy enw i yw Mai-Lyn Clarke a dechreuais yn MPCT yn 2017, a ches fy nghreu o’r newydd.
Cyn i mi ymuno â Choleg Caerdydd, doedd gen i ddim cliw pwy oeddwn i, lle’r oeddwn i na lle roeddwn i eisiau mynd nesaf. Roeddwn i’n hynod o ddiog, ac yn yr ysgol, cyn pob arholiad, byddai athro yn fy neffro a byddai rhaid galw tacsi i fy nol, doedd gen i ddim cymhelliant a dim rheswm i ddal ati. Dyma pryd newidiodd MPCT fi fel person.
Ar y dechrau, roedd cyrraedd y coleg am 8:30 bob bore yn anodd i mi. Roedd gorfod sgleinio fy esgidiau, smwddio fy nillad a gwneud yn siŵr bod gen i bopeth yr oeddwn eu hangen ar gyfer y diwrnod yn her. Fodd bynnag, roedd staff MPCT wir yn fy ngwthio ac un peth na wnaethant erioed oedd rhoi’r ffidil yn y to, a dyma pryd y dechreuais sylweddoli y gallwn ei wneud mewn gwirionedd ac roeddwn i’n teimlo o’r diwedd fel bod pobl yn credu y gallwn i wneud hynny.
Parheais i ehangu fy nealltwriaeth o fathemateg a Saesneg yn MPCT. Roedd hyn yn fwy buddiol i mi na’r ysgol oherwydd bod cyd-destun a phwrpas i’r gwaith. Yn ystod fy 2 flynedd ac 8 mis yn y coleg, gwnes dair lefel mewn Cymhwyso Rhif ac roeddwn yn gweithio tuag at gymhwyster Lefel 2. Hefyd, gwnes ddwy lefel mewn Cyfathrebu ac eto, roeddwn yn gweithio tuag at gymhwyster Lefel 2. Gwnaeth gweithio ar fy sgiliau fy helpu i basio fy mhrawf seicometrig ar gyfer y Llynges Frenhinol. Cefais sesiynau 1 i 1 gyda Ma’am West lle’r oeddem yn canolbwyntio ar y meysydd yr oedd angen i mi weithio arnynt fwyaf.
Yr oeddwn yn eithaf tawel yn ystod y misoedd cyntaf yn y coleg ac nid oedd gennyf hyder, ond ar ôl ymarfer fy nghyflwyniad torri’r ias, dros amser, des yn gyfforddus wrth ei chyflwyno i uwch swyddogion mewn sawl ymweliad VIP.
Yn ystod fy amser ar y cwrs, gorchfygais lawer o rwystrau megis cadw amser, disgyblaeth a chymhelliant. Y rhwystr mwyaf y bu’n rhaid i mi ei oresgyn oedd treulio dros hanner blwyddyn yn anaddas yn feddygol i’r llynges. I lawer o bobl, byddai hyn wedi bod yn broblem, a byddai llawer wedi gwyro eu llwybr a dechrau ystyried opsiynau gyrfa newydd. Fodd bynnag, roeddwn yn dal i ymdrechu gyda chefnogaeth y staff. Gwyddwn beth yr oeddwn eisiau, a waeth beth oedd y rhwystrau o fy mlaen, roeddwn yn mynd i ymuno �r Llynges Frenhinol. Diolch i Staff Richards, Staff Toye a’r MPCT yn ei gyfanrwydd rwyf bellach yn barod ar gyfer fy nyddiad cychwyn ar 11 Mai, a chyn bo hir byddant yn fy ngweld yn gadael fel pwy ydw i nawr yn hytrach na phwy oeddwn i gynt.
Pan ymunais â’r coleg am y tro cyntaf, roeddwn yn ymwybodol o’r MLT ond nid oeddwn yn siŵr beth ydoedd a sut yr oedd yn cefnogi dysgwyr. Dros amser sylweddolais pa mor anhygoel ydyw, ac rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i fod ar daith o feysydd brwydrau gyda chefnogaeth yr MLT, ac yr oeddwn yn ddigon ffodus i allu traddodi fy nghyflwyniad torri’r ias yn ystod noson codi arian yr MLT.
Cyn dechrau hyfforddiant sylfaenol, cefais fy hun mewn sefyllfa anodd o ran fy mywyd gartref, a bu’n rhaid i mi fyw gyda ffrindiau. Roeddwn mewn sefyllfa anodd a gwariais fy holl gynilion ar fwyd. Roedd hyn yn golygu nad oeddwn yn gallu prynu dim o’r offer yr oeddwn eu hangen i ddechrau fy hyfforddiant.
Yn anochel, es i banig ac roeddwn yn agos at ohirio fy nyddiad cychwyn nes byddai fy sefyllfa wedi gwella. Fe wnes i anfon neges at y staff i egluro fy sefyllfa. Yn fuan ar ôl hynny, cysylltwyd â’r MLT i weld a allent fy nghefnogi mewn unrhyw ffordd ac arweiniodd hyn at y cyllid yr oeddwn ei angen. Diolch i’r MLT, prynais yr holl offer yr oeddwn ei angen i ddechrau fy hyfforddiant.
Er gwaethaf pandemig byd-eang, rwy’n aelod balch o’r Llynges Frenhinol. Diolch yn fawr am eich cefnogaeth.
CHERISE LLOYD
MPC BANGOR
Roedd Miss Lloyd yn ddysgwr yn MPC Bangor nôl yn 2010, 2011. Er iddi ddyheu am ymuno â’r fyddin, ni ddigwyddodd hynny felly aeth yn ôl i goleg AB ac astudio iechyd cyn symud ymlaen i weithio fel Cynorthwyydd Gofal Iechyd yn yr ysbyty lleol. Yn ystod y cyfnod hwnnw, roedd hi’n gofalu am ei Mam-gu. Graddiodd gyda BSc mewn Seicoleg a gwyddorau troseddol o Brifysgol Lerpwl.
ALEX UPTON
MPC CASNEWYDD
Aeth Alex Upton, a ymunodd â’r coleg ar 1 Gorffennaf 2016, ymlaen i weithio i gwmni Newport Galvanizers ym mis Mehefin 2017.
Rhoddodd y Coleg Paratoi Milwrol hwb i fy hyder, ac mae hynny wedi fy helpu i wneud ffrindiau ac i gyfathrebu â’m cydweithwyr newydd. Mae’r hyfforddiant corfforol a wnes i yn y Coleg wedi bod mor bwysig wrth fy mharatoi i hefyd gan fod yn rhaid i chi fod yn heini yn y swydd gan fod llawer o waith corfforol a chodi trwm.
Rwyf wedi gwneud llawer o ffrindiau yma yn Newport Galvanizers, mae’n amgylchedd da i weithio ynddo hefyd, mae’n waith ymarferol ac rwy’n caru hynny. Rwyf bellach yn gweithio tuag at fy NVQ ac rwy’n ennill cyflog da. Rwyf newydd gael fy nhrwydded wagen fforch-godi hefyd (a thalodd Newport Galvanizers am hynny), felly rwy’n datblygu’n gyson ac yn cael sgiliau newydd i helpu i ddatblygu fy ngyrfa.”