Sut y bydd ymuno â MPCT yn helpu gyda’m cais Milwrol?

Mae pob un o’n hyfforddwyr yn gyn-bersonél y Lluoedd Arfog sydd â blynyddoedd o brofiad milwrol. Byddwch yn ennill llawer o sgiliau milwrol, gwybodaeth a ffitrwydd defnyddiol a fydd yn eich paratoi ar gyfer pob cam o’ch cais. Byddwch hyd yn oed yn gwisgo gwisg filwrol tra gyda MPCT.

A yw’r cwrs yn rhad ac am ddim?

Ydy, mae’r hyfforddiant am ddim oherwydd bod y cwrs yn cael ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

Oes angen i mi fod yn heini i ymuno â’r cwrs?

Na. Byddwn yn sicrhau eich bod yn gweithio ar lefel sy’n addas i chi. Bydd eich ffitrwydd yn gwella’n naturiol wrth i chi gymryd rhan mewn ymarfer corff bob dydd yn y coleg.

A fyddaf i’n cael fy nhalu?

Efallai y byddwch yn gymwys i dderbyn bwrsariaeth neu lwfans hyfforddi, mae’n dibynnu ar ba wlad rydych yn byw ynddi. Am fwy o wybodaeth cliciwch yma.

A fydda i’n cael gwisg?

Byddwch. Mae’r holl fyfyrwyr ar y rhaglen yn gwisgo gwisg coleg. Mae hyn yn gwneud iddynt deilmo’n rhan o’r tîm ac yn rhoi ymdeimlad o falchder iddynt. Bydd manylion eich gwisg ysgol yn cael eu hegluro ar eich diwrnod cyntaf. Os ydych chi am weld y gwisgoedd cliciwch yma i ymweld â’r siop.