MPCT a’r Llynges Frenhinol a’r Môr-filwyr Brenhinol
Dewch o hyd i bopeth sydd angen i chi ei wybod am berthynas lewyrchus MPCT â’r Llynges Frenhinol a’r Môr-filwyr Brenhinol o straeon llwyddiant Dysgwyr, tystebau a llawer mwy.
Mae llofnodi’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn cynrychioli’r cyswllt swyddogol rhwng ein dau sefydliad, cyswllt sydd wedi bodoli yn anffurfiol ers peth amser. Mae’r Môr-filwyr Brenhinol yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gydag MPCT, i ddatblygu’r berthynas ymhellach ac i helpu dysgwyr i ddeall cyfleoedd gyrfa’r Môr-filwyr Brenhinol ac i sicrhau canlyniadau cadarnhaol.
IS-GYRNOL MICHAEL SCANLON RM
Straeon Llwyddiant y Llynges Frenhinol a’r Môr-filwyr Brenhinol
Dewch o hyd i bopeth sydd angen i chi ei wybod am berthynas lewyrchus MPCT â’r Llynges Frenhinol a’r Môr-filwyr Brenhinol o straeon llwyddiant Dysgwyr, tystebau a llawer mwy.
Cyfweliad gyda Chyn-ddysgwr MPCT
Dyma gyn-ddysgwr MPC Casnewydd Mr Nothnagel yn ymuno â ni o CTC Lympstone i ganmol Gwobrau Dysgwyr MPCT a fydd yn digwydd yn fuan.
Cyfweliad Mr Darby
Y Cyn-ddysgwr Mr Darby yn dweud wrthym am y cymorth a gafodd gan MPCT yn ystod y broses o ymgeisio i ymuno â’r Llynges Frenhinol.
Cyfweliad gyda Chyn-ddysgwyr MPCT
Dyma’r Cyn-ddysgwyr Marine Lewis a Marine Chandler-Robertson yn dweud wrthym sut y gwnaeth MPCT eu helpu i ennill y sgiliau a’r priodoleddau yr oeddent eu hangen i ymuno â’r Môr-filwyr Brenhinol.
MPCT a’r Llynges Frenhinol yn arwyddo Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth
Mae’r MPCT a Gwasanaeth y Llynges wedi llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth (MOU) i roi cydnabyddiaeth ffurfiol i’r gefnogaeth a’r cyfleoedd yr ydym yn ei gynnig i’n gilydd. Cafodd tri Dysgwr ac un cyn-Ddysgwr gyfle i ymweld â Phencadlys MPCT i fod yn rhan o’r achlysur pwysig hwn ac i egluro rhai o’u rhesymau dros ymuno ag MPCT a thrafod eu profiadau fel Dysgwr MPCT.