Cymorth

Cymorth Ariannol

Wrth astudio yn MPCT, efallai y bydd gennych hawl i dderbyn cymorth ariannol. Edrychwch ar y gwahanol opsiynau sydd ar gael i chi a’r manylion am sut y gallwch gael gafael arnynt.

Os ydych angen rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’n tîm Gwasanaethau Cymorth i Ddysgwyr sy’n barod i helpu.

Efallai y bydd gennych hawl i dderbyn hyd at £40.00 yr wythnos am hyd at 30 wythnos.

Os ydych yn 16-18 oed ac mewn hyfforddiant llawn amser neu ran amser, gallech fod â hawl i dderbyn cymorth ariannol i helpu i dalu am gostau hanfodol sy’n gysylltiedig ag addysg, megis offer cwrs, bwyd neu gludiant i’r coleg ac oddi yno.
Gallech gael bwrsariaeth o hyd at £1,200 y flwyddyn. I gael rhagor o wybodaeth am y Gronfa Fwrsariaeth, ewch i: https://www.gov.uk/guidance/16-to-19-education-financial-support-for-students

FAINT FYDD RHAID I MI EI DALU AM Y CWRS?

Mae’r hyfforddiant yn rhad ac am ddim oherwydd ei fod yn cael ei ariannu’n rhannol gan yr Asiantaeth Ariannu Addysg.

BETH OS NA ALLAF FFORDDIO PRYNU’R OFFER?

Efallai y byddwch yn gymwys i hawlio cymorth ariannol (drwy’r Gronfa Bwrsariaeth 16–18). Bydd y Gronfa Bwrsariaeth (os ydych yn gymwys) yn rhoi cymorth os ydych yn cael trafferth gyda chostau a allai effeithio ar eich dysgu.

A OES GEN I HAWL I DDERBYN PRYDAU AM DDIM?

Os ydych yn gymwys i dderbyn cymorth gan y Gronfa Fwrsariaeth, rydych hefyd yn gymwys i gael prydau am ddim pan fyddwch yn y coleg. Byddwch yn derbyn lwfans dyddiol ar gyfer pob diwrnod a fynychir.

SUT MAE GWELD A YDW I’N GYMWYS I DDERBYN CYMORTH Y GRONFA FWRSARIAETH?

Gall myfyrwyr fod yn gymwys os ydynt yn bodloni’r meini prawf a nodir gan lywodraeth y DU. Unwaith y byddwch wedi cyflwyno’ch ffurflen gais, byddwn yn rhoi gwybod i chi os ydych yn gymwys ai peidio. Ewch i https://www.gov.uk/guidance/16-to-19-education-financial-support-for-students i gael rhagor o wybodaeth am gymhwysedd.

SUT MAE GWNEUD CAIS AM Y FWRSARIAETH?

Cwblhewch y Ffurflen Gais Cymorth Ariannol ddigidol sydd ar gael gan ein Gwasanaethau Cymorth i Ddysgwyr ar 0330 111 3939.

*Gofynnir i chi ddarparu tystiolaeth ategol

SUT MAE’R FWRSARIAETH YN GWEITHIO?

Os ydych yn gymwys i dderbyn y fwrsariaeth, bydd gennych hawl i wneud cais am gostau eitemau sy’n berthnasol i’r cwrs – hyd at uchafswm o £1,200 bob blwyddyn. Er enghraifft, teithio (rhwng y cartref a’r coleg) ac unrhyw arian sy’n cael ei wario ar offer a chyfarpar sy’n hanfodol i gwblhau’r cwrs. Byddwch yn derbyn £2.41 ar gyfer pob dydd y byddwch yn bresennol ac yn cael pryd o fwyd.

A YDW I ANGEN CYFRIF BANC?

Os ydych yn gymwys i gael y fwrsariaeth – ydych. Bydd yr arian a hawlir yn cael ei dalu’n uniongyrchol i’ch cyfrif banc.

A FYDD FY RHIENI’N COLLI EU BUDD-DAL PLANT PAN FYDDAF YN DECHRAU’R CWRS?

Na. Caiff ein cyrsiau eu cymeradwyo gan y Llywodraeth ac felly nid ydynt yn cael unrhyw effaith ar Fudd-dal Plant gan fod eich plentyn o dan 20 oed ac mewn addysg amser llawn. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

BETH FYDDAF I EU HANGEN AR FY NIWRNOD CYNTAF?

Dyma restr wirio i sicrhau eich bod yn dod â phopeth y byddwch eu hangen:

MANYLION BANC

Fel y gallwch dderbyn eich cyllid

PRAWF ADNABOD

Trwydded yrru neu basbort

UNRHYW DYSTYSGRIFAU

Cymwysterau a dderbyniwyd eisoes

RHIF YSWIRIANT GWLADOL

Cyllid Ysgoloriaeth MPCT ac MLT

Mae’r MLT ar y cyd ag MPCT wedi cymeradwyo cynllun newydd ar gyfer cyllid ysgoloriaeth – Cyllid Ysgoloriaeth MPCT ac MLT (MMSF).

Diben cyffredinol yr ysgoloriaethau a gynigir yw cefnogi a denu Dysgwyr sydd ddim yn bodloni’r meini prawf i dderbyn cyllid llwybrau ariannu arferol y Llywodraeth. Bydd ysgoloriaethau llwyddiannus yn dileu nifer o rwystrau ariannol er mwyn rhoi cyfle i ymgeisydd ddysgu, i ymgysylltu a symud ymlaen drwy’r rhaglen MPCT drwy wella eu sgiliau cyffredinol, eu cymwysterau a’u cyfleoedd gyrfa yn y dyfodol.

Bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd gyflwyno ffurflen gais wedi’i chwblhau i dderbyn cyllid a bydd hyn yn cynnwys datganiad ymgeisydd. I gael gwybod mwy am yr Cyllid Ysgoloriaeth MPCT ac MLT (MMSF) neu i ddarganfod a ydych yn gymwys ar gyfer y cynllun, cysylltwch â ni i gael cyngor a chefnogaeth ar gwblhau’r cais MMSF perthnasol a’r gwiriadau gofynnol.


Ymddiriedolaeth Cymhelliant a Dysgu (MLT)

Os nad ydych yn gymwys i dderbyn unrhyw un o’r opsiynau cymorth ariannol, neu os ydych angen cymorth ychwanegol, ewch i dudalen yr MLT motivationandlearningtrust.org i gael rhagor o wybodaeth am sut y gallwn eich cefnogi’n ariannol.


GOSTYNGIADAU TEITHIO MYFYRWYR

PWY SY’N GYMWYS?

  • RYDYCH CHI’N 18 OED NEU’N HŶN
  • RYDYCH YN BYW YN UN O FWRDEISTREFI LLUNDAIN YN YSTOD Y TYMOR
  • RYDYCH WEDI COFRESTRU MEWN YSGOL, COLEG NEU BRIFYSGOL SYDD WEDI’I CHOFRESTRU AR Y CYNLLUN TFL – MAE MPCT YN UN O’R SEFYDLIADAU HYN.

SUT MAE GWNEUD CAIS?

Ar ôl i chi gofrestru yn eich coleg MPCT, gallwch glicio yma i wneud cais ar-lein drwy TfL. Mae rhagor o fanylion am y cynllun ar gael ar wefan Tfl: Transport for London – Free and discounted travel

I gwblhau eich cais, byddwch angen y canlynol:

  • LLUN LLIW, DIGIDOL I’W UWCHLWYTHO
  • EICH RHIF COFRESTRU AR GYFER EICH SEFYDLIAD ADDYSG
  • DYDDIADAU DECHRAU A DIWEDD EICH CWRS
  • CERDYN CREDYD NEU DDEBYD I DALU’R FFI O £20.00
  • CYFEIRIAD E-BOST GWEITHREDOL

16 – 19 CRONFA DDYSGU 2021/2022

DATGANIAD O FWRIAD

Mae MPCT yn bwriadu parhau â sesiynau Cymorth i Ddysgwyr ar Ddyddiau Gwener, lle bydd grwpiau bach o hyd at 5 dysgwr (16-19 oed) y mae Covid wedi amharu ar eu dysgu yn mynychu hyfforddiant mathemateg a Saesneg ychwanegol a gofal bugeiliol arall.

Bydd MPCT yn datblygu cwricwlwm cadarn sy’n hyrwyddo ymgysylltiad â mathemateg, Saesneg, a meysydd eraill AAAA, a hynny er mwyn cyflymu dysgu ac i atal unrhyw darfu pellach ar gynnydd dysgwyr.

Rhoddir y flaenoriaeth gyntaf i ddysgwyr sydd eto i ennill TGAU gradd 4 neu 5 mewn Saesneg a/neu fathemateg.

Bydd sesiynau ychwanegol hefyd i roi hyfforddiant i’r dysgwyr hynny sydd â gradd 4 neu uwch mewn Saesneg a/neu fathemateg, sydd o gefndir difreintiedig ac angen cymorth i gau’r bwlch, gan gynnwys rhai ag anghenion addysgol arbennig ac anableddau (AAAA).

EIN BWRIAD

Bydd dysgwyr sydd yn gymwys i dderbyn yr hyfforddiant yn mynychu sesiynau dysgu ychwanegol ar ddydd Gwener yn eu canolfan ddynodedig neu dros Teams os bydd angen, fel yn ystod cyfnodau clo Covid-19. Bydd tiwtoriaid yn cyflwyno’r sesiynau grŵp bach; bydd y ddarpariaeth yn unigol ac yn canolbwyntio ar ddatblygu’r sgiliau sydd ar gynlluniau dysgu unigol a/neu Gynllun Addysg, Iechyd a Gofal pob dysgwr.

Bydd y cyllid ychwanegol yn rhoi cyfle i sgiliau mathemateg a Saesneg ddatblygu’n gynt, gan roi cymorth pellach i ddysgwyr dderbyn canlyniadau da a chyflawni eu dyheadau gyrfaol.

EIN DULL

Bydd sesiynau tiwtorial i grwpiau bach o ddysgwyr (dim mwy na 5) yn cynnig sgiliau astudio ehangach i ddysgwyr wrth iddynt baratoi ar gyfer asesiadau mewnol ac allanol sy’n ymwneud â’u gyrfaoedd dewisol. Bydd dysgwyr yn cwblhau tasgau ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau sydd wedi’u teilwra i gefnogi a datblygu eu sgiliau, a hynny er mwyn eu cefnogi ar eu llwybr galwedigaethol a’u dyheadau gyrfaol. Bydd y cymorth hwn yn gwella ac yn datblygu hunanhyder ac yn ehangu eu gorwelion.