Cymorth

Cymorth Ariannol

Wrth astudio yn MPCT, efallai y bydd gennych hawl i dderbyn cymorth ariannol. Edrychwch ar y gwahanol opsiynau sydd ar gael i chi a’r manylion am sut y gallwch gael gafael arnynt.

Os ydych angen rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’n tîm Gwasanaethau Cymorth i Ddysgwyr sy’n barod i helpu.

Unwaith y bydd dysgwyr wedi cofrestru ar gwrs yng Nghymru, byddant yn derbyn £30 – £50 yr wythnos, gan gynnwys gwyliau.

FAINT FYDD RHAID I MI EI DALU AM Y CWRS?

Mae’r hyfforddiant yn rhad ac am ddim gan fod y cwrs yn cael ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

BETH OS NA ALLAF FFORDDIO PRYNU’R OFFER?

Bydd pob myfyriwr yn derbyn lwfans hyfforddi rhwng £30 a £50 i helpu gydag unrhyw gostau.

BYDD FY MAB/MERCH ANGEN TEITHIO AR DRAFNIDIAETH GYHOEDDUS, NID WYF YN SIŴR A ALLAF EI FFORDDIO

Mae gan bob myfyriwr hawl i gael arian i wrthbwyso eu costau teithio dyddiol. Gall myfyrwyr hawlio hyd at 90% o’u costau teithio yn ôl.

A FYDD FY MAB/MERCH ANGEN CYFRIF BANC?

Byddent, gan fod y lwfans hyfforddi ac unrhyw gostau cymorth teithio yn cael eu talu’n uniongyrchol iddynt.

A FYDDAF YN COLLI BUDD-DAL PLANT PAN FYDD FY MAB/MERCH YN DECHRAU’R CWRS?

Na. Caiff ein cyrsiau eu cymeradwyo gan y Llywodraeth ac felly nid ydynt yn cael unrhyw effaith ar Fudd-dal Plant gan fod eich plentyn o dan 20 oed ac mewn addysg amser llawn.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth 

BETH FYDD FY MAB/MERCH EU HANGEN AR EU DIWRNOD CYNTAF?

Y peth pwysicaf y bydd eich mab/merch ei angen yw eu rhif Yswiriant Gwladol gan na fyddant yn gallu dechrau hebddo. Peidiwch ag anghofio y bydd angen iddynt hefyd ddod â thystiolaeth neu gopi o dystiolaeth o’u dyddiad geni a’u cyfeiriad cartref cyfredol, yn ogystal â chadarnhad bod ganddynt yr hawl i fyw a gweithio yn y DU. Edrychwch ar ein rhestr wirio i sicrhau bod popeth yn barod:

MANYLION BANC

Fel y gallwch dderbyn eich cyllid

PRAWF ADNABOD

Trwydded yrru neu basbort

UNRHYW DYSTYSGRIFAU

Cymwysterau a dderbyniwyd eisoes

RHIF YSWIRIANT GWLADOL

Cyllid Ysgoloriaeth MPCT ac MLT

Mae’r MLT ar y cyd ag MPCT wedi cymeradwyo cynllun newydd ar gyfer cyllid ysgoloriaeth – Cyllid Ysgoloriaeth MPCT ac MLT (MMSF).

Diben cyffredinol yr ysgoloriaethau a gynigir yw cefnogi a denu Dysgwyr sydd ddim yn bodloni’r meini prawf i dderbyn cyllid llwybrau ariannu arferol y Llywodraeth. Bydd ysgoloriaethau llwyddiannus yn dileu nifer o rwystrau ariannol er mwyn rhoi cyfle i ymgeisydd ddysgu, i ymgysylltu a symud ymlaen drwy’r rhaglen MPCT drwy wella eu sgiliau cyffredinol, eu cymwysterau a’u cyfleoedd gyrfa yn y dyfodol.

Bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd gyflwyno ffurflen gais wedi’i chwblhau i dderbyn cyllid a bydd hyn yn cynnwys datganiad ymgeisydd. I gael gwybod mwy am yr Cyllid Ysgoloriaeth MPCT ac MLT (MMSF) neu i ddarganfod a ydych yn gymwys ar gyfer y cynllun, cysylltwch â ni i gael cyngor a chefnogaeth ar gwblhau’r cais MMSF perthnasol a’r gwiriadau gofynnol.


Ymddiriedolaeth Cymhelliant a Dysgu (MLT)

Os nad ydych yn gymwys i dderbyn unrhyw un o’r opsiynau cymorth ariannol, neu os ydych angen cymorth ychwanegol, ewch i dudalen yr MLT motivationandlearningtrust.org i gael rhagor o wybodaeth am sut y gallwn eich cefnogi’n ariannol.


GOSTYNGIADAU TEITHIO MYFYRWYR

PWY SY’N GYMWYS?

  • RYDYCH CHI’N 18 OED NEU’N HŶN
  • RYDYCH YN BYW YN UN O FWRDEISTREFI LLUNDAIN YN YSTOD Y TYMOR
  • RYDYCH WEDI COFRESTRU MEWN YSGOL, COLEG NEU BRIFYSGOL SYDD WEDI’I CHOFRESTRU AR Y CYNLLUN TFL – MAE MPCT YN UN O’R SEFYDLIADAU HYN.

SUT MAE GWNEUD CAIS?

Ar ôl i chi gofrestru yn eich coleg MPCT, gallwch glicio yma i wneud cais ar-lein drwy TfL. Mae rhagor o fanylion am y cynllun ar gael ar wefan Tfl: Transport for London – Free and discounted travel

I gwblhau eich cais, byddwch angen y canlynol:

  • LLUN LLIW, DIGIDOL I’W UWCHLWYTHO
  • EICH RHIF COFRESTRU AR GYFER EICH SEFYDLIAD ADDYSG
  • DYDDIADAU DECHRAU A DIWEDD EICH CWRS
  • CERDYN CREDYD NEU DDEBYD I DALU’R FFI O £20.00
  • CYFEIRIAD E-BOST GWEITHREDOL

CRONFA DDYSGU 16 – 19 2021/2022

DATGANIAD O FWRIAD

Mae MPCT yn bwriadu parhau â sesiynau Cymorth i Ddysgwyr ar Ddyddiau Gwener, lle bydd grwpiau bach o hyd at 5 dysgwr (16-19 oed) y mae Covid wedi amharu ar eu dysgu yn mynychu hyfforddiant mathemateg a Saesneg ychwanegol a gofal bugeiliol arall.

Bydd MPCT yn datblygu cwricwlwm cadarn sy’n hyrwyddo ymgysylltiad â mathemateg, Saesneg, a meysydd eraill AAAA, a hynny er mwyn cyflymu dysgu ac i atal unrhyw darfu pellach ar gynnydd dysgwyr.

Rhoddir y flaenoriaeth gyntaf i ddysgwyr sydd eto i ennill TGAU gradd 4 neu 5 mewn Saesneg a/neu fathemateg.

Bydd sesiynau ychwanegol hefyd i roi hyfforddiant i’r dysgwyr hynny sydd â gradd 4 neu uwch mewn Saesneg a/neu fathemateg, sydd o gefndir difreintiedig ac angen cymorth i gau’r bwlch, gan gynnwys rhai ag anghenion addysgol arbennig ac anableddau (AAAA).

EIN BWRIAD

Bydd dysgwyr sydd yn gymwys i dderbyn yr hyfforddiant yn mynychu sesiynau dysgu ychwanegol ar ddydd Gwener yn eu canolfan ddynodedig neu dros Teams os bydd angen, fel yn ystod cyfnodau clo Covid-19. Bydd tiwtoriaid yn cyflwyno’r sesiynau grŵp bach; bydd y ddarpariaeth yn unigol ac yn canolbwyntio ar ddatblygu’r sgiliau sydd ar gynlluniau dysgu unigol a/neu Gynllun Addysg, Iechyd a Gofal pob dysgwr.

Bydd y cyllid ychwanegol yn rhoi cyfle i sgiliau mathemateg a Saesneg ddatblygu’n gynt, gan roi cymorth pellach i ddysgwyr dderbyn canlyniadau da a chyflawni eu dyheadau gyrfaol.

EIN DULL

Bydd sesiynau tiwtorial i grwpiau bach o ddysgwyr (dim mwy na 5) yn cynnig sgiliau astudio ehangach i ddysgwyr wrth iddynt baratoi ar gyfer asesiadau mewnol ac allanol sy’n ymwneud â’u gyrfaoedd dewisol. Bydd dysgwyr yn cwblhau tasgau ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau sydd wedi’u teilwra i gefnogi a datblygu eu sgiliau, a hynny er mwyn eu cefnogi ar eu llwybr galwedigaethol a’u dyheadau gyrfaol. Bydd y cymorth hwn yn gwella ac yn datblygu hunanhyder ac yn ehangu eu gorwelion.