Newyddion a Digwyddiadau

Newyddion a Digwyddiadau / Llyfr Coffa MPCT 2021

Llyfr Coffa MPCT 2021

Mae’n anrhydedd cyflwyno ein pumed Llyfr Coffa, sydd wedi’i gyflwyno i bum cyn-ddysgwr MPCT a gollodd eu bywydau wrth wasanaethu dros ein gwlad. Drwy ein gweithredoedd coffa, byddwn yn cadw eu cof yn fyw. Cyhyd ag y bydd MPCT yn bodoli, byddwn yn eu cofio.

  • Preifat Craig Barber – 2il Bataliwn Y Cymry Brenhinol
  • Sapper Connor Ray – 33 Engineer Regiment
  • Lance Cpl. Dane Elson – Bataliwn 1af Gwarchodlu Cymreig
  • Preifat Kyle Adams – Parachute Regiment
  • Preifat James Prosser – 2il Bataliwn Y Cymry Brenhinol

Fel y byddech yn ei ddisgwyl, mae’r adeg hon o’r flwyddyn yn eithriadol o bwysig, nid yn unig i mi fy hun yn bersonol, ond i’n sefydliad cyfan. Mae Dydd y Cofio yn un cyfnod yn ystod y flwyddyn lle gallwn oll gymryd saib gyda’n gilydd i fyfyrio ar ein hatgofion o’r holl bobl sydd wedi gwneud yr aberth mwyaf. A ninnau heb allu cynnal rhaglen draddodiadol o ddigwyddiadau’r llynedd oherwydd y pandemig, mae eleni wedi bod yn arbennig o ingol. O ganlyniad, rwy’n hynod falch o weld ein dysgwyr yn arddangos eu parch mewn digwyddiadau ledled y wlad, ac mae’n fraint gallu rhannu eu profiadau gyda chi yn y llyfryn eleni.

I weld ein Llyfr Cofio, cliciwch yma.

Byddwn yn eu cofio.


Huw Lewis MBE
Prif Swyddog Gweithredol

Yn ôl i’r erthyglau newyddion

MPCT yn dod yn rhan o’r Grŵp Learning Curve

Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein bod, o heddiw ymlaen, yn dod yn rhan o Learning Curve Group. Darparwr hyfforddiant cenedlaethol yn parhau â’u twf trawiadol trwy gaffael MPCT Mae’r darparwr hyfforddiant cenedlaethol Learning Curve Group (LCG) yn falch iawn o gyhoeddi eu bod wedi caffael MPCT yng Nghaerdydd, gan ategu ei ddarpariaeth academi bresennol. Bydd...

Read more

MPCT yn ymweld â RAF Cosford.

Ar 23 Tachwedd, gwahoddwyd MPC Birmingham ac MPC Walsall i ymweld ag RAF Cosford, wedi’i drefnu gan Flight Lieutenant Katie Sheppick. Dyma’r cyfle cyntaf i ymweld â lleoliad yr Awyrlu Brenhinol ers cryn dipyn o amser. Gwelodd y dysgwyr yr holl gyfleoedd gwych a oedd ar gael iddynt pe byddent yn dewis gyrfa gyda’r RAF....

Read more

Gwobr Etifeddiaeth Diana

Llongyfarchiadau i Mr Alex Anderson, sydd wedi mynd o nerth i nerth ers gadael MPCT, ar ennill Gwobr Etifeddiaeth Diana yn ddiweddar i gydnabod ei waith gwirfoddol a’i wasanaeth ar gyfer Awtistiaeth. Mae’r wobr hon yn cydnabod 20 o bobl ifanc bob dwy flynedd am eu hymdrechion i wneud y byd yn lle gwell i...

Read more

Plannu Coed ym Mharc Mill Hill

Ar 2 Rhagfyr bu dysgwyr MPC Edgware yn rhan o gynllun plannu coed ym Mharc Mill Hill. Nod y cynllun, sy’n cael ei redeg gan Gyngor Barnet gyda chymorth gwirfoddolwyr fel ein Dysgwyr, yw creu coetir coffa lle gall y gymuned leol fyfyrio a chofio’r a gollwyd ers dechrau’r pandemig, ac i helpu i ddod...

Read more

Taith gerdded Elusen MLT

Y tymor hwn cynhaliwyd taith gerdded Academi Chwaraeon MPCT, o ganolfan hamdden Channel View, Caerdydd i Bontypridd ar hyd Llwybr y Taf, cyfanswm o 15 milltir a gwblhawyd mewn un diwrnod gan y dysgwyr. Ychydig ddyddiau cyn y digwyddiad, cerddodd y dysgwyr 6 milltir o amgylch Caerdydd i baratoi ar gyfer y diwrnod mawr. Cerddodd...

Read more

Ymdrechion Cymunedol MPC Sunderland

Y mis hwn, ymunodd MPCT Sunderland â Chlwb Pêl-droed Sunderland i helpu i wirio pasbortau Covid y dorf wrth iddynt fynd i’r stadiwm. Gwych yw gweld dysgwyr yn helpu’r gymuned ac yn cael eu gwobrwyo am eu hymdrechion. Cymerodd MPCT ran mewn rhai gweithgareddau elusennol Nadolig i gasglu arian i’n helusen, sef y Motivation &...

Read more