Y tymor hwn cynhaliwyd taith gerdded Academi Chwaraeon MPCT, o ganolfan hamdden Channel View, Caerdydd i Bontypridd ar hyd Llwybr y Taf, cyfanswm o 15 milltir a gwblhawyd mewn un diwrnod gan y dysgwyr.
Ychydig ddyddiau cyn y digwyddiad, cerddodd y dysgwyr 6 milltir o amgylch Caerdydd i baratoi ar gyfer y diwrnod mawr. Cerddodd y dysgwyr o amgylch Caerdydd gan edrych ar rai o’i lleoliadau enwocaf, fel Stadiwm Principality, Castell Caerdydd a Chanolfan y Mileniwm. Roedd hyn er mwyn sicrhau bod y dysgwyr yn barod ar gyfer y daith gerdded 15 milltir yn ogystal ag i sbarduno sgyrsiau da am ddiwylliant Cymru. Cwblhaodd y dysgwyr y daith gerdded mewn 5 awr a chasglwyd £200 ar gyfer y Motivational Learning Trust.
Yr wythnos nesaf cewch wybod sut hwyl gafodd dysgwyr pob un o’n colegau ledled y wlad yn Ras Siôn Corn MLT.
Yn ôl i’r erthyglau newyddion